14 Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.
15 Ond gwrthryfelodd i'w erbyn, gan anfon ei genhadau i'r Aifft, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A lwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef?
16 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yng nghartref y brenin yr hwn a'i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a'r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon.
17 Ac ni wna Pharo â'i lu mawr, ac â'i fintai luosog, ddim gydag ef mewn rhyfel, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymaith lawer einioes.
18 Gan ddiystyru ohono y llw, gan ddiddymu y cynghrair, (canys wele, efe a roddasai ei law,) a gwneuthur ohono hynny oll, ni ddianc.
19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a'm cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.
20 Canys taenaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i'm herbyn.