6 Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a'i changau yn troi ato ef; a'i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig.
7 Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac â llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i'w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad.
8 Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd‐deg.
9 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i'w thynnu hi o'i gwraidd.
10 Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.
11 Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
12 Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a'i thywysogion, ac a'u dug hwynt gydag ef i Babilon: