9 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i'w thynnu hi o'i gwraidd.
10 Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.
11 Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
12 Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a'i thywysogion, ac a'u dug hwynt gydag ef i Babilon:
13 Ac a gymerodd o'r had brenhinol, ac a wnaeth ag ef gyfamod, ac a'i dug ef dan lw; cymerodd hefyd gedyrn y wlad:
14 Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.
15 Ond gwrthryfelodd i'w erbyn, gan anfon ei genhadau i'r Aifft, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A lwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef?