11 Ac ni wna yr un o'r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga,
12 Yr anghenus a'r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra,
13 Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.
14 Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,
15 Ar y mynyddoedd ni fwyty, a'i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymydog,
16 Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i'r newynog, a'r noeth a ddillada,
17 Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.