3 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel.
4 Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.
5 Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder,
6 Heb fwyta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymydog, na nesáu at wraig fisglwyfus,
7 Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i'r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i'r newynog, ac a ddilladodd y noeth,
8 Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr.
9 Yn fy neddfau y rhodiodd, a'm barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.