7 Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i'r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i'r newynog, ac a ddilladodd y noeth,
8 Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr.
9 Yn fy neddfau y rhodiodd, a'm barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.
10 Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i'r un o'r pethau hyn,
11 Ac ni wna yr un o'r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga,
12 Yr anghenus a'r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra,
13 Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.