1 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt.
2 A'r ysbryd a aeth ynof, pan lefarodd efe wrthyf, ac a'm gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf.
3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i'm herbyn; hwynt‐hwy a'u tadau a droseddasant i'm herbyn, hyd gorff y dydd hwn.
4 Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw.
5 A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt.
6 Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.