4 Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw.
5 A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt.
6 Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.
7 Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio; canys gwrthryfelgar ydynt.
8 Tithau fab dyn, gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt, Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: lleda dy safn, a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti.
9 Yna yr edrychais, ac wele law wedi ei hanfon ataf, ac wele ynddi blyg llyfr.
10 Ac efe a'i dadblygodd o'm blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno, galar, a griddfan, a gwae.