1 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2 Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra.
3 Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.
4 Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wledydd.