11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt;
13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a'r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf.
14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw.
15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am wneuthur o'r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i'w dinistrio am yr hen gas;
16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr.
17 A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf fy nialedd arnynt.