3 A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud:
4 Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o'th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth.
5 Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â'th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â'th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel;
7 Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf yn fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd:
9 Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim,