5 Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â'th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â'th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel;
7 Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf yn fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.
8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd:
9 Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim,
10 I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd.
11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.