8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd:
9 Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim,
10 I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd.
11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt;
13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a'r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf.
14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw.