1 Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2 Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo'm llenwir; anrheithiedig yw hi:
3 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i'th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i'th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau.
4 A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a'i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a'i gwnaf yn gopa craig.
5 Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Arglwydd Dduw: a hi a fydd yn ysbail i'r cenhedloedd.
6 Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â'r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o'r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer.