16 Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o'u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.
17 Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y'th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?
18 Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.
19 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y'th guddio dyfroedd lawer;
20 A'th ddisgyn ohonof gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, at y bobl gynt, a'th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll, fel na'th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;
21 Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni'th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.