4 A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a'i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a'i gwnaf yn gopa craig.
5 Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Arglwydd Dduw: a hi a fydd yn ysbail i'r cenhedloedd.
6 Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â'r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o'r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer.
8 Dy ferched a ladd efe yn y maes â'r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i'th erbyn, ac a fwrw glawdd i'th erbyn, ac a gyfyd darian i'th erbyn.
9 Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr â'i fwyeill.
10 Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a'th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.