9 Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr â'i fwyeill.
10 Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a'th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.
11 A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â'r cleddyf, a'th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i'r llawr.
12 A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a'th dai dymunol a dynnant i lawr: a'th gerrig, a'th goed, a'th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.
13 A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau.
14 A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni'th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.
15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol?