5 Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.
6 Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.
7 Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.
8 Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr.
9 Henuriaid Gebal a'i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a'u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.
10 Y Persiaid, a'r Ludiaid, a'r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch.
11 Meibion Arfad oedd gyda'th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.