11 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
12 Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch,
13 Ti a fuost yn Eden, gardd Duw: pob maen gwerthfawr a'th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a'th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y'th grewyd.
14 Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y'th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd.
15 Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y'th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd.
16 Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y'th halogaf allan o fynydd Duw, ac y'th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd.
17 Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat.