15 Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y'th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd.
16 Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y'th halogaf allan o fynydd Duw, ac y'th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd.
17 Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat.
18 Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o'th ganol, hwnnw a'th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a'th welant.
19 Y rhai a'th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o'th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.
20 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
21 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi,