2 Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am falchïo dy galon, a dywedyd ohonot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd; a thi yn ddyn, ac nid yn Dduw, er gosod ohonot dy galon fel calon Duw:
3 Wele di yn ddoethach na Daniel; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthyt:
4 Trwy dy ddoethineb a'th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth i ti, ie, y cefaist aur ac arian i'th drysorau:
5 Trwy dy fawr ddoethineb ac wrth dy farchnadaeth yr amlheaist dy gyfoeth, a'th galon a falchïodd oherwydd dy gyfoeth:
6 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw,
7 Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i'th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o'r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb, a halogant dy loywder.
8 Disgynnant di i'r ffos, a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr.