6 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am osod ohonot dy galon fel calon Duw,
7 Oherwydd hynny wele fi yn dwyn i'th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o'r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoethineb, a halogant dy loywder.
8 Disgynnant di i'r ffos, a byddi farw o farwolaeth yr archolledig yng nghanol y môr.
9 Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad, Duw ydwyf fi? a thi a fyddi yn ddyn, ac nid yn Dduw, yn llaw dy leiddiad.
10 Byddi farw o farwolaeth y dienwaededig, trwy law dieithriaid: canys myfi a'i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.
11 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
12 Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch,