18 Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i'w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddinoethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i'w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:
19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i'w lu ef.
20 Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd Dduw.
21 Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.