1 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, bwyta yr hyn a geffych, bwyta y llyfr hwn a dos, a llefara wrth dŷ Israel.
2 Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwyta'r llyfr hwnnw.
3 Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, â'r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.
4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dŷ Israel, a llefara â'm geiriau wrthynt.
5 Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y'th anfonir di, ond at dŷ Israel;
6 Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y'th anfonaswn atynt?
7 Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel.