12 Yna yr ysbryd a'm cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o'm hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o'i le.
13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr.
14 A'r ysbryd a'm cyfododd, ac a'm cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.
15 A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt.
16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
17 Mab dyn, mi a'th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o'm genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi.
18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.