17 Mab dyn, mi a'th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o'm genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi.
18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.
19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na'i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid.
20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o'i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.
21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o'r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.
22 Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i'r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt.
23 Yna y cyfodais, ac yr euthum i'r gwastadedd: ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb.