20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o'i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.
21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o'r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.
22 Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i'r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt.
23 Yna y cyfodais, ac yr euthum i'r gwastadedd: ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb.
24 Yna yr aeth yr ysbryd ynof, ac a'm gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthyf, Dos, a chae arnat o fewn dy dŷ.
25 Tithau fab dyn, wele, hwy a roddant rwymau arnat, ac a'th rwymant â hwynt, ac na ddos allan yn eu plith.
26 A mi a wnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fud, ac ni byddi iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.