3 Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, â'r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.
4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dŷ Israel, a llefara â'm geiriau wrthynt.
5 Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y'th anfonir di, ond at dŷ Israel;
6 Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y'th anfonaswn atynt?
7 Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel.
8 Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a'th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt.
9 Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na'r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.