7 Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel.
8 Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a'th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt.
9 Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na'r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.
10 Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â'th galon, a chlyw â'th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt.
11 Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio.
12 Yna yr ysbryd a'm cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o'm hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o'i le.
13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr.