1 A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2 Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Udwch, Och o'r diwrnod!
3 Canys agos dydd, ie, agos dydd yr Arglwydd, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe.
4 A'r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.
5 Ethiopia, a Libya, a Lydia, a'u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf.