14 Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No.
15 A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.
16 A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.
17 Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.
18 Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a'i cuddia hi, a'i merched a ânt i gaethiwed.
19 Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
20 Ac yn y mis cyntaf o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,