7 A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig.
8 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi.
9 Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod.
10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon.
11 Efe a'i bobl gydag ef, y rhai trawsion o'r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd.
12 Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a'i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a'i dywedodd.
13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.