1 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2 Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd?
3 Y braster a fwytewch, a'r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd.
4 Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb.