11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a'u ceisiaf hwynt.
12 Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a'u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll.
13 A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd, a chasglaf hwynt o'r tiroedd, a dygaf hwynt i'w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad.
14 Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel.
15 Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a'u gorweddfâf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.
16 Y golledig a geisiaf, a'r darfedig a ddychwelaf, a'r friwedig a rwymaf, a'r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a'r gref; â barn y porthaf hwynt.
17 Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a'r bychod.