22 Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn.
23 Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.
24 A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn.
25 Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.
26 Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i'r glaw ddisgyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd.
27 A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.
28 Ac ni byddant mwyach yn ysbail i'r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a'u dychryno.