4 Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.
5 Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt:
6 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, mi a'th wnaf di yn waed, a gwaed a'th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a'th ddilyn.
7 Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a'r hwn a ddychwelo.
8 Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â'i laddedigion: yn dy fryniau, a'th ddyffrynnoedd, a'th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â'r cleddyf.
9 Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a'th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
10 Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a'r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a'i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno: