7 Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a'r hwn a ddychwelo.
8 Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â'i laddedigion: yn dy fryniau, a'th ddyffrynnoedd, a'th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â'r cleddyf.
9 Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a'th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
10 Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a'r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a'i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno:
11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o'th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y'm hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y'th farnwyf di.
12 A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i'w difa.
13 Ymfawrygasoch hefyd â'ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i'm herbyn: mi a'u clywais.