1 Tithau fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel, a dywed, Gwrandewch, fynyddoedd Israel, air yr Arglwydd.
2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Oherwydd dywedyd o'r gelyn hyn amdanoch chwi, Aha, aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni:
3 Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; oherwydd iddynt eich anrheithio, a'ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd:
4 Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'u hamgylch: