15 Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy, ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i'th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.
16 Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
17 Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'u ffordd ac â'u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.
18 Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef;
19 Ac a'u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt.
20 A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr Arglwydd, ac o'i wlad ef yr aethant allan.
21 Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt.