17 Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'u ffordd ac â'u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.
18 Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef;
19 Ac a'u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt.
20 A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr Arglwydd, ac o'i wlad ef yr aethant allan.
21 Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt.
22 Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid er eich mwyn chwi, tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch.
23 A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd, medd yr Arglwydd Dduw, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid.