24 Canys mi a'ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a'ch casglaf chwi o'r holl wledydd, ac a'ch dygaf i'ch tir eich hun.
25 Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi.
26 A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o'ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.
27 Rhoddaf hefyd fy ysbryd o'ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a'u gwneuthur.
28 Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i'ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw i chwithau.
29 Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a'i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn.
30 Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.