30 Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.
31 Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a'ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra.
32 Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.
33 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd.
34 A'r tir anrheithiedig a goleddir, lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd.
35 A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a'r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir.
36 Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o'ch amgylch, a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau anrheithiedig: myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.