35 A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a'r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir.
36 Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o'ch amgylch, a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau anrheithiedig: myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.
37 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymofynnir â myfi eto gan dŷ Israel, i wneuthur hyn iddynt; amlhaf hwynt â dynion fel praidd.
38 Fel y praidd sanctaidd, fel praidd Jerwsalem yn ei huchel wyliau, felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.