8 A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwriwch allan eich ceinciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i'm pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod.
9 Canys wele fi atoch, ie, troaf atoch, fel y'ch coledder ac y'ch heuer.
10 Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dŷ Israel i gyd, fel y cyfanhedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffeithwch.
11 Ie, amlhaf ynoch ddyn ac anifail; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt; ie, gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
12 Ie, gwnaf i ddynion rodio arnoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy.
13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych, Yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid:
14 Am hynny ni fwytei ddynion mwy, ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid, medd yr Arglwydd Dduw.