6 Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
7 Yna y proffwydais fel y'm gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a'r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn.
8 A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt.
9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua'r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.
10 Felly y proffwydais fel y'm gorchmynasid; a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
11 Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o'n rhan ni.
12 Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o'ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel.