1 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2 Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen‐tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn,
3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal.
4 Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a'th ddygaf allan, a'th holl lu, y meirch a'r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd â phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr â tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau:
5 Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm:
6 Gomer a'i holl fyddinoedd; tŷ Togarma o ystlysau y gogledd, a'i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi.
7 Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a'th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.