11 A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,
12 I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o'r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad.
13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â'u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?
14 Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod?
15 A thi a ddeui o'th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog.
16 A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a'th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteiddiwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt.
17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt?