20 Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a'r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a'r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr.
21 A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd.
22 Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef.
23 Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.