9 Dringi hefyd fel tymestl; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a'th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi.
10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i'th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg.
11 A thi a ddywedi, Mi a af i fyny i wlad maestrefydd; af at y rhai llonydd, y rhai sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,
12 I ysbeilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfaneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o'r cenhedloedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad.
13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, â'u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?
14 Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Y dydd hwnnw, pan breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod?
15 A thi a ddeui o'th fangre dy hun o ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyda thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosog.