1 Tithau fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o'th flaen, a llunia arni ddinas Jerwsalem:
2 A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.
3 Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a'r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.
4 Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.